Diweddariad 2020

Rhwng mis Mai a 1 Hydref 2020 rydym wedi brechu 217 o foch daear. Byddwn yn parhau i frechu tan ddiwedd Tachwedd 2020 o leiaf os yw'r tywydd yn caniatáu inni wneud hynny'n ddiogel.

Nid ydym yn gallu cynnal cyfarfodydd ffermwyr oherwydd cyfyngiadau Covid. Os ydych chi eisiau unrhyw wybodaeth bellach, yna cysylltwch â ni.

Yn ystod rownd frechu 2020 mae tirfeddianwyr pellach wedi ymgysylltu â'r prosiect gyda sicrhau caniatâd ar gyfer 24 o ddaliadau tir ychwanegol.