Sut fedrwch helpu
Mae 2020 yn nodi'r pwynt hanner ffordd yn ein cynllun pedair blynedd i frechu poblogaeth moch daear Y Gŵyr yn erbyn TB. Rydym wedi cychwyn ar y rhaglen frechu eleni, ond mae angen cyllid arnom ar frys i allu parhau â'r gwaith hanfodol bwysig hwn am weddill eleni. Heb gyllid, mae risg wirioneddol o ddinistrio llawer o'r gwaith da a wnaed eisoes.
Mae Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar y cwmnïau, sefydliadau ac elusennau sydd wedi bod yn rhoi i'r prosiect hyd yma i'r pwynt nad ydyn nhw'n gallu gwneud cyfraniadau ariannol eleni gan arwain at danariannu difrifol.
Bydd unrhyw beth y gallwch ei roi yn ein helpu i barhau â'n gwaith hanfodol i amddiffyn moch daear a gwartheg rhag y clefyd ofnadwy hwn wrth gefnogi ein cymuned ffermio leol.
Gwirfoddoli
Er mai unigolion trwyddedig yn unig all frechu'r moch daear, byddem yn gwerthfawrogi'n fawr unrhyw beth y gallwch ei wneud i helpu i ledaenu'r gair am ein hymdrechion codi arian. Os oes gennych syniadau am weithgareddau codi arian, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.